MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £40,777 - £44,075 y flwyddyn (G08)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Datblygu Gwasanaeth Gwella Addysg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £40,777 - £44,075 y flwyddyn (G08)

Lleoliad gwaith: Coed Pella/Hybrid

Mae Gwasanaeth Addysg Conwy yn chwilio am Swyddog Datblygu Gwasanaeth Gwella Addysg i ymgymryd â rôl hanfodol wrth gefnogi a sicrhau addysg o'r ansawdd gorau i holl blant a phobl ifanc Conwy.

Bydd y rôl hon yn cyfoethogi'r Gwasanaethau Addysg yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid a datblygu trwy reoli agweddau gweithredol allweddol o wasanaethau addysg statudol ac anstatudol a darparu gwasanaethau cefnogi i ysgolion a chyrff llywodraethu yng Nghonwy.

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd gennych y sgiliau a'r arbenigedd i arwain a chefnogi meysydd allweddol o'r Gwasanaeth Gwella Addysg gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): datblygu gwasanaeth, cymorth gyda chyflwyno'r cwricwlwm, derbyniadau i ysgolion a chymorth ar gyfer llywodraethu. Byddwch yn gallu rheoli ac arwain mentrau, prosiectau a ffrydiau gwaith yn unol â chyfarwyddyd uwch swyddogion. Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon.

Byddwch yn cael eich cefnogi'n dda gan dîm deinamig a blaengar tra'n meddu ar y gallu i arwain prosiectau a datblygu mentrau eich hun o'r cychwyn cyntaf i'r gweithredu. Byddwch yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid a bydd gofyn i chi baratoi a chyflwyno gwybodaeth fel rhan o'ch rôl. Amlinellir rhagor o fanylion am ddyletswyddau a chyfrifoldebau swydd-benodol yn y ddogfennaeth ychwanegol.

Oherwydd natur y gwaith, mae'r swydd yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Clare Scanlon, Rheolwr Gwasanaeth Gwella Addy ( clare.scanlon@conwy.gov.uk / 01492 575343)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.