MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £51,942 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £51,942 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG
(Gyfun 11 - 18 oed, 759 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1af o Fedi, 2026.
Athro/Awes Pontio Cynradd Uwchradd (Dros Dro)
Cytundeb dros dro an flwyddyn hyd at 31.08.2027 yn unig yw hwn
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o'r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Brynrefail am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith.
Gwahoddir unrhyw un sydd a diddordeb neu angen mwy o wybdaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mr Dylan Jones, pennaeth@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru , neu ffôn 01286 672381.
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniogyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi atodi gan nodi eich dymuniad. Wedi atodi i'r hysbysiad yma mae'r swydd ddisgrifiad ynghyd â'r ffurflen gais. Dylir ei dychwelyd eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru drwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: DYDD SUL, 22AIN O CHWEFROR 2026.
Bwriedir cynnal y cyfweliadau cyn gwyliau'r Pasg.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Ffurflen Mynegi Diddordeb Pecyn Recriwtio i Ysgolion.pdf
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Swydd ddisgrifiad
Swydd : ATHRO/ATHRAWES Pontio
Rheolwr Cyswllt : Pennaeth yr Adran/nau Perthnasol
Mae'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Mae Ysgol Brynrefail yn ysgol Uwchradd 11-18 oed ym mhentref Llanrug yng Ngwynedd. Mae bron i 800 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda'r rhan fwyaf yn dod atom o'r dalgylch ysgolion cynradd Llanrug, Bethel, Llanberis, Deiniolen, Penisarwaun a Waunfawr. Mae'r disgyblion yn dilyn rhan fwyaf o'u pynciau yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac o ganlyniad mae bron pob disgybl yn rhugl ddwyieithog. Mae natur yr ysgol yn adlewyrchu ardal ddiwylliedig, hanesyddol a chymreig Dyffryn Peris. Mae awyrgylch hapus a chartrefol yma, gyda pherthynas iach rhwng y disgyblion a staff yn nodwedd gref. Ymfalchiwn yn y ffordd mae ein disgyblion yn datblygu i fod yn unigolion hyderus, dwyieithog, medrus sydd yn gyfforddus iawn yn nghwmni cyd-ddisgyblion, staff ac ymwelwyr i'r ysgol.
Mae'r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Brynrefail i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo'n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
- Cynllunio gwersi
- Asesu, marcio ac adborth
- Rheolaeth ddosbarth
- Datblygu dycnwch
- Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae'r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Proses Ymgeisio:
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi'i atodi i'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner cyn gwyliau'r Pasg.
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg - Hwb neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth ar 01286 672381 neu ebost pennaeth@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi