MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Friars, Bangor,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £51,942 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Dysgu Galwedigaethol - Ysgol Friars

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £51,942 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOL FRIARS, BANGOR

(Cyfun 11 - 18: 1263 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer : Cyn gynted a phosib.

ATHRO/AWES DYSGU GALWEDIGAETHOL

BARHAOL

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Arweinydd Prosiect, Mrs Bethan Roberts, Rhif ffôn: 01248 364905

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan y Arweinydd Prosiect, Mrs Bethn Roberts, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905;

e-bost: pennaeth@friars.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 19EG O CHWEFROR, 2026.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Gweler Atodiad yn yr hysbyseb swydd

Swydd Ddisgrifiad

Gweler Atodiad yn yr hysbyseb swydd

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi