MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Ysgol Y Bedol

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2816

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Rhydaman, Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyflog o:

L15 - £74,384

Cyflog i:

L21 - £86,183

Oriau Contract:

Llawn Amser

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Y Bedol yn awyddus i benodi Pennaeth ysbrydoledig a blaengar i barhau â'n taith lwyddiannus. Credwn fod hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm ymroddedig mewn ysgol hapus, groesawgar a llwyddiannus.

Chwiliwn am Bennaeth sy'n:
  • ymroi i ragoriaeth mewn addysg
  • angerddol dros yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru
  • cyfathrebu'n glir yn y Gymraeg a Saesneg
  • feddyliwr strategol â gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant parhaus ac a fydd yn cydweithio'n agos ac yn effeithiol â Chorff Llywodraethu'r ysgol
  • weithiwr proffesiynol gyda phrofiad o fedrau arwain, rheoli a rhyngbersonol (gan gynnwys rheolaeth effeithiol ac effeithlon o gyllideb ac adnoddau'r ysgol)
  • arweinydd ysbrydoledig, yn cymell ac yn grymuso pobl eraill
  • anelu at safonau a disgwyliadau uchel sy'n sicrhau bod pob plentyn yn derbyn yr addysg orau
  • gyfathrebwr ardderchog a fydd yn ysbrydoli plant, rhieni a staff fel ei gilydd
  • barod i ymrwymo i feithrin ymhellach y cydberthnasau sy'n bodoli eisoes gyda'n teuluoedd a'r gymuned ehangach.

Mae gan Ysgol y Bedol:
  • athrawon a charfan cymorth hynod broffesiynol, dawnus, arloesol a hapus sy'n ymroi i gynnydd a dilyniant er mwyn parhau i ddatblygu'r ysgol
  • Corff Llywodraethu ymroddgar a chefnogol, sy'n ymroi i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r gorau ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Dyma gyfle cyffrous i'r person cywir i arwain ein hysgol i'r cam nesaf yn ei datblygiad.

Gwahoddwn darpar ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol ar ddydd Iau 12 Chwefror am 2 o'r gloch y prynhawn. Cysylltwch â Zena Llewellyn, swyddog gweinyddol yr ysgol, ar admin@ybedol.ysgolccc.cymru neu 01269 824048, i gadarnhau eich presenoldeb.

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu swydd Pennaeth gyntaf feddu ar y CPCP.

Taith ysgol: 12.02.26 - 14:00yp

Dyddiad Cau: Dydd Llun 23/02/2026

Llunio'r Rhestr Fer: Dydd Gwener 27/02/2026

Cyfweliadau: 11/03/2026 a 12/03/2026

Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS manwl.

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Dr. Anita Rees, Cadeirydd y Corff Llywodraethol, ar ReesA534@Hwbcymru.net .

Disgrifiad Swydd:

26-02-02 - Pecyn Recriwtio Pennaeth Y Bedol (006530).pdf - 936KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

11 Mawrth 2026

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 23/02/2026, 23:55

Y Buddion

Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.