MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Uwchradd Bodedern,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 33731.00 - 51942.00 GBP per Year
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes - Pontio

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 33731.00 - 51942.00 GBP per Year

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar gael yn yr atodiadau isod.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Nodwch os gwelwch yn dda ni ddylid ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol.

Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi'i atodi i'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad.

Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef dydd Sul, 22 Chwefror 2026.