MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Merthyr Tydfil,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £20,958.00 - I: £22,455.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Partner Gwella Cydweithredol Ysgolion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyflog: £20,958.00 - I: £22,455.00
Cyflog: 13 Awr TTO + 2 Wythnos = 32.075% o L3-18 - 22 Soulbury= £20,958.44 - £22,455.38 y flwyddyn
• Sicrhau canlyniadau gwell i bob dysgwr drwy ddarparu her gadarn, adeiladol a chefnogaeth effeithiol o ansawdd uchel, sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso cydweithredu rhwng ysgolion i godi safonau.
• Cefnogi a herio ysgolion unigol a chydweithrediadau cysylltiedig wrth bennu eu ffocws gwella ysgolion blynyddol yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth.
• Sicrhau bod ysgolion unigol a chydweithrediadau cysylltiedig wedi ystyried a gwerthuso'r tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol wrth bennu eu ffocws gwella ysgolion blynyddol.
• Sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cael ei hysbysu'n llawn am y ffocws gwella ysgolion sy'n cael eu cynnal gan ysgolion unigol a chydweithrediadau cysylltiedig bob blwyddyn a pham mae'r rhain wedi'u dewis.
• Darparu adroddiad gwrthrychol o gynnydd tymor a blynyddol ysgolion unigol a chydweithrediadau cysylltiedig, yn seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol a thrafodaethau gydag ystod o randdeiliaid sy'n gysylltiedig â'r ysgolion unigol a chydweithrediadau cysylltiedig.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Andrea May ar 01685 725000 neu ebostiwch Andrea.May@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 05.03.2026 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.