MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £28,598 - £32,597
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £28,598 - £32,597
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2636
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Gradd F
Cyflog:
£28,598 - £32,597
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.82 - £16.90
Oriau Contract:
37 Awr
Dewch i ymuno â'n tîm
Ydych chi'n angerddol dros hyrwyddo cynhwysiant, tegwch a chael effaith gadarnhaol ar fywydau dysgwyr? Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am weithiwr proffesiynol ymroddedig a thosturiol i ymuno â'n tîm fel Swyddog Polisi a Datblygu Teithio gan Ddysgwyr.
Yn y rôl hanfodol hon, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal ein hymrwymiad i gefnogi pob dysgwr trwy ddatblygu, gweithredu a rheoli ein polisïau teithio i ddysgwyr. Bydd eich gwaith yn sicrhau mynediad cyfartal a theithiau diogel i bob myfyriwr, gan gynnwys y rhai sydd ag Anghenion Dysgwyr Ychwanegol. Byddwch chi'n gyfrifol am reoli data sensitif disgyblion yn gyfrinachol, a goruchwylio prosesau asesu ac apeliadau gyda thryloywder, parch ac empathi.
Yr Hyn y Byddwch Chi'n Gyfrifol Amdano:
- Datblygu a chymhwyso polisïau teithio dysgwyr cynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd o degwch a pharch.
- Rheoli data cyfrinachol disgyblion
- Goruchwylio gweithdrefnau asesu ac apelio ar gyfer dysgwyr prif ffrwd ac ADY, gan ymgysylltu â theuluoedd a rhanddeiliaid mewn modd tosturiol.
- Gweithio'n agos gydag ysgolion, teuluoedd, ac asiantaethau allanol i sicrhau trefniadau trafnidiaeth diogel, hygyrch a chefnogol.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau, safonau a deddfwriaeth berthnasol, gan gyfrannu at wella gwasanaeth parhaus.
Mae angen unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig arnom sy'n meddu ar y canlynol: -
- Gweithiwr proffesiynol ymroddedig gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol.
- Profiad o reoli data sensitif gyda disgresiwn a chyfrinachedd.
- Dull tosturiol o weithio gyda chymunedau a theuluoedd amrywiol.
- Mae gwybodaeth am bolisïau addysg, anghenion ADY, a rheoliadau trafnidiaeth yn ddymunol.
- Chwaraewr tîm sy'n gwerthfawrogi tegwch, parch a chydweithio.
Os ydych chi'n cael awyddus i gefnogi addysg gynhwysol ac eisiau bod yn rhan o gyngor blaengar, byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â: Kelly Phillip - 07771 388260 keaphillips@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
88004 - Cymraeg terfynol Proffil Swydd-Job Profile Oct25 Learner Travel Policy and Development Officer.pdf - 188KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 19/02/2026, 12:00
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.