MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £35,675 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/awes Di-gymhwyster - Ysgol y Moelwyn

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £35,675 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG

(Cyfun 11 - 16; 361 o ddisgyblion)

yn eisiau: 1af o Fedi, 2026.

Athro/Athrawes Cymraeg,Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)

Cytundeb dros dro am ddwy flynedd hyd at 31.08.2028 yn unig yw hwn

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro/Athrawes Cymraeg,Saesneg,Mathemateg a Gwyddoniaeth (Hyfforddi fel Athro Uwchradd) - gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion.

Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Y Brifysgol Agored.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon Di-Gymhwyster (£22,685 - £35,675) yn ôl profiad a chymhwyster. 

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mrs Eleri Moss 01766 830435 pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Am unrhyw gwestiynau neu ragor o wybodaeth am y rhaglen, anfonwch e-bost at Dîm TAR Cymru: TAR-Cymru@open.ac.uk neu ewch i:
TAR | Tystysgrif Addysg i Raddedigion yng Nghymru | Open University

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Mena Price, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW, (Rhif ffôn 01766 830435,) e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: Hanner Dydd, Dydd Gwener 27 o Chwefror, 2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi