MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Lampeter,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 33,731 - 51,942 *
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 33,731 - 51,942 *
Ynglŷn â'r rôlMae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o'r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o
gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Bro Pedr am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol pob oed . Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Ysgol dwyieithog yw Ysgol Bro Pedr a rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn un o ysgolion cyntaf 3-19 Cymru, ac yn torri tir newydd o ran darparu addysg gydol oed ar gyfer ein disgyblion. Er bod nifer o ddisgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn 3 oed, daw nifer yn ogystal o ysgolion cynradd partner eraill o'r Awdurdod Lleol ac o Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin. Mae 960 o ddisgyblion ar rôl yr ysgol - 321 o ddisgyblion Meithrin i flwyddyn 6 a 639 o ddisgyblion Blwyddyn 7-13 (sy'n cynnwys 79 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 55 o ddisgyblion ym mlwyddyn 13).
Daw 69.4% o ddisgyblion yr ysgol o gartrefi lle na defnyddir y Gymraeg. Mae'r disgyblion yn cael eu ffrydio'n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg Ail-Iaith ym mlynyddoedd 3-13. Mae'r ysgol wedi mynd trwy ymgynghoriad llwyddiannus yn ddiweddar sy'n golygu bod ein disgyblion Dysgu Sylfaen i gyd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, mae 24.5% o'n disgyblion yn hawlio prydiau ysgol am ddim (20.97% o'n disgyblion oed uwchradd a 31.7% o'n disgyblion oed cynradd). Ar hyn o bryd, mae 15 o ddisgyblion sydd mewn gofal yn mynychu ein hysgol ac mae 16 o ddisgyblion yr ysgol yn ofalwyr ifanc. Hefyd, mae 10.1% o'n disgyblion a Saesneg fel Iaith Ychwanegol, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r ganran yn is o fewn yr oed cynradd (9.03%) o'i gymharu â'r oed uwchradd (10.64%). Rydym yn falch iawn o'n cymuned cynhwysol yn Ysgol Bro Pedr a rydym yn darparu'n llwyddiannus ar gyfer ystod lawn o
alluoedd a chefndiroedd.
Lleolir Canolfan Y Bont, sef adnodd sirol ar gyfer disgyblion o oed uwchradd ag anghenion amrywiol (ASD, SLD, PMLD, MSI), ar safle'r ysgol. Mae'r ganolfan yn rhan lawn o'r ysgol, ac mae'r disgyblion ar
rôl Ysgol Bro Pedr. Yn ogystal, sefydlwyd uned Sgiliau Bywyd sy'n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol lled ddwys a disgyblion ymddygiadol bregus a chynigai barhad a dilyniant i rai o
ddisgyblion Canolfan y Bont lle'n berthnasol ac ymarferol. Mae yna 11 o ddisgyblion yn mynychu Canolfan Y Bont a 21 o ddisgyblion yn mynychu Sgiliau Bywyd, ar hyn o bryd.
Mae'r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Bro Pedr i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo'n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
- Cynllunio gwersi
- Asesu, marcio ac adborth
- Rheolaeth ddosbarth
- Datblygu dycnwch
- Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae'r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Ffurflen Mynegi Diddordeb
Proses ymgeisio:
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi'i atodi i'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 22 Chwefror 2026.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng cyn gwyliau'r Pasg.
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg - Hwb neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth Mrs Carys Morgan - MorganC506@bropedr.ceredigion.sch.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant