MANYLION
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £36,363 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Llywodraethiant Ysgolion

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £36,363 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Ystyried Secondiadau

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwern ap Rhisiart, gwernaprhisiart@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 04.03.2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Ymddygiad proffesiynol, teg a diduedd, a'r gallu i ennill hyder a pharch Cadeiryddion, llywodraethwyr, Penaethiaid ac uwch swyddogion.

Hyder i gefnogi a herio'n adeiladol.

Agwedd strategol, gyda ffocws clir ar atebolrwydd, tryloywder a gwelliant parhaus.

Y gallu i weithio'n annibynnol ac i gymryd cyfrifoldeb personol am flaenoriaethu gwaith.

Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.

DYMUNOL

Agwedd ragweithiol at arloesi a gwella trefniadau llywodraethiant.

Agwedd gadarnhaol at wella a newid.

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

Cymhwyster addysg bellach neu uwch mewn maes perthnasol.

DYMUNOL

Cymwysterau neu hyfforddiant penodol mewn llywodraethiant ysgolion, arweinyddiaeth strategol neu weinyddiaeth gyhoeddus.

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus sy'n berthnasol i lywodraethiant, arweinyddiaeth neu atebolrwydd.

Hyfforddiant mewn delio â chwynion neu ddatrys anghydfodau.

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Profiad o ddarparu cyngor strategol, proffesiynol a diduedd i randdeiliaid ar lefel uwch.

Profiad o gefnogi a herio arweinwyr yn broffesiynol er mwyn gwella effeithiolrwydd a pherfformiad.

Profiad o ymgymryd â gwaith ymchwil a chyflwyno gwybodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig

DYMUNOL

Profiad o weithio gyda chyrff llywodraethu ysgolion neu strwythurau llywodraethiant tebyg.

Profiad o weithio o fewn neu ar y cyd ag Awdurdod Lleol neu gorff cyhoeddus arall.

Profiad o arwain neu hwyluso fforymau neu rwydweithiau proffesiynol.

Profiad o ddelio â chwynion.

Profiad o gyfrannu at ddatblygu neu weithredu platfformau digidol neu systemau gwybodaeth.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig Cymraeg a Saesneg rhagorol, gyda'r gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth yn glir ac yn ddiduedd.

Y gallu i baratoi adroddiadau, polisïau, gweithdrefnau a chyflwyniadau o safon uchel.

Sgiliau dadansoddi cryf i nodi risgiau, patrymau a meysydd i'w cryfhau, a chynnig atebion ymarferol.

Sgiliau hwyluso a chyflwyno, gan gynnwys profiad o gyflwyno i grwpiau amrywiol.

Y gallu i weithio'n effeithiol gyda gwasanaethau a phartneriaid eraill.

Y gallu i weithio mewn tîm ac yn annibynnol.

Sgiliau rhyngbersonol da.

Sgiliau cyfrifiadurol cadarn.

DYMUNOL

Gwybodaeth gadarn o rôl, cyfrifoldebau a dyletswyddau statudol Cyrff Llywodraethol ysgolion yng Nghymru.

Dealltwriaeth o egwyddorion atebolrwydd, tryloywder a llywodraethiant effeithiol.

Gwybodaeth gyfredol o ddeddfwriaeth, canllawiau cenedlaethol a pholisïau sy'n ymwneud â llywodraethiant ysgolion ac addysg yng Nghymru.

Dealltwriaeth o systemau digidol i gefnogi llywodraethiant, cofnodi penderfyniadau a rhannu gwybodaeth.

ANGHENION IEITHYDDOL

HANFODOL

Gwrando a Siarad -Lefel Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.

Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall -Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.

Medru casglu Gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu -Lefel Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.
  • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
  • Darparu arweiniad, cyngor a chefnogaeth broffesiynol ar lefel Awdurdod Lleol i gryfhau llywodraethiant ysgolion effeithiol, gan ganolbwyntio'n benodol ar gefnogi Cadeiryddion cyrff llywodraethu, aelodau llywodraethol a Phenaethiaid.

Bydd y rôl yn adeiladu ar drefniadau presennol i sicrhau trefn atebolrwydd cadarn, gyson a thryloyw rhwng Cyrff Llywodraethol ac yr Awdurdod Lleol, gan sicrhau defnydd cyson o'r arweiniad, polisïau, gweithdrefnau a systemau mwyaf cyfredol.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
  • Offer e.e cyfrifiadur

Prif Ddyletswyddau.

Cyngor ac arweiniad ar lywodraethiant effeithiol
  • Gweithredu fel arbenigwr llywodraethiant effeithiol o fewn yr Awdurdod Lleol, gan ddarparu cyngor strategol, diduedd a chyfredol i Gadeiryddion, llywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion.
  • Cefnogi a herio Cadeiryddion yn broffesiynol i gryfhau arweinyddiaeth y Corff Llywodraethol, gan hyrwyddo atebolrwydd, tryloywder a ffocws strategol.
  • Cynghori Penaethiaid a thimau arwain ar ffiniau clir rhwng rôl y Corff Llywodraethol a rheolaeth weithredol yr ysgol.

Atebolrwydd a pherthynas â'r Awdurdod Lleol
  • Datblygu ac adeiladu ar y drefn atebolrwydd presennol rhwng Cyrff Llywodraethol ac yr Awdurdod Lleol, gan sicrhau disgwyliadau clir, cyson a chymesur.
  • Cefnogi Cadeiryddion a Chyrff Llywodraethol i ddeall a chyflawni eu cyfrifoldebau atebolrwydd, gan gryfhau ymddiriedaeth a pherthynas broffesiynol â'r Awdurdod.
  • Nodi patrymau, risgiau neu feysydd i'w cryfhau mewn trefniadau llywodraethiant, a chynnig atebion yn seiliedig ar dystiolaeth ac arfer da.

Trefn awdurdod-gyfan a thryloywder
  • Datblygu, cynnal a goruchwylio trefn awdurdod-gyfan gadarn i sicrhau bod pob Cadeirydd, aelod a Chlerc Corff Llywodraethol yng Ngwynedd yn derbyn arweiniad cyson, clir a safonol yn amserol
  • Cefnogi cyrff llywodraethu i sicrhau bod penderfyniadau, trafodaethau a chamau gweithredu yn cael eu cofnodi'n briodol, yn dryloyw ac yn agored, yn unol â disgwyliadau statudol ac arfer da.

Polisïau, gweithdrefnau ac arfer da
  • Arwain ar adolygu, trefnu a chynnal ystod eang o bolisïau llywodraethiant, gan gynnwys:

-polisïau mandadol/statudol;

-polisïau sy'n adlewyrchu arfer da;

-a gweithdrefnau manwl wedi'u seilio ar arferion effeithiol.
  • Sicrhau bod yr arweiniad mwyaf cyfredol (deddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau) ar gael, yn glir ac yn hygyrch i ysgolion a llywodraethwyr.

Cefnogi Cadeiryddion a Phenaethiaid mewn perthynas â chwynion
  • Darparu cyngor proffesiynol, amserol a diduedd i Gadeiryddion a Phenaethiaid ar ddelio â chwynion, yn unol â chanllawiau cenedlaethol a pholisïau'r Awdurdod.
  • Cefnogi rhanddeiliaid drwy'r broses gwynion, gan sicrhau eglurder, cysondeb a thegwch, heb gymryd lle'r Pennaeth na'r Corff Llywodraethol nac ymyrryd mewn penderfyniadau.

Fforwm Llywodraethwyr Gwynedd
  • Hwyluso a chefnogi gwaith Fforwm Llywodraethwyr Gwynedd, gan gyfrannu'n weithredol at ei ddatblygiad a'i effeithiolrwydd.
  • Paratoi a chyflwyno adroddiadau, cyflwyniadau ac adnoddau i'r Fforwm, gan adlewyrchu themâu strategol, arfer da a disgwyliadau'r Awdurdod Lleol.
  • Defnyddio'r Fforwm fel llwyfan i gryfhau llais llywodraethwyr a rhannu arweiniad cyson ar draws y sir.

Datblygu platfform llywodraethiant
  • Arwain neu gyfrannu'n sylweddol at ddatblygu platform digidol newydd i gynnal a chefnogi llywodraethiant effeithiol ysgolion, gan sicrhau ei fod yn hygyrch, cyfredol ac yn adlewyrchu anghenion Cadeiryddion, llywodraethwyr, Clercod ac arweinwyr ysgolion.
  • Sicrhau bod y platfform yn cynnwys arweiniad, polisïau, gweithdrefnau, adnoddau a negeseuon allweddol yr Awdurdod mewn un lle canolog, a sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru'n gyson.
  • Hyrwyddo defnydd effeithiol o'r platfform fel offeryn i gryfhau cysondeb, tryloywder ac atebolrwydd.

Datblygu, hyfforddi a chydweithio
  • Cyfrannu at ddatblygu a chydlynu hyfforddiant wedi'i dargedu ar gyfer Cadeiryddion, llywodraethwyr a Chlercod.
  • Sicrhau bod cofnodion yr hyfforddiant i Lywodraethwyr yn cael eu cadw'n gyfredol.
  • Cydweithio â gwasanaethau eraill yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod llywodraethiant ysgolion yn cyfrannu'n gadarn at welliant, ansawdd addysg a lles dysgwyr.

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
  • Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi