MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: L14 -L20
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Ysgol Bodhyfryd

Cyngor Wrecsam

Cyflog: L14 -L20

Ynglŷn â'r Rôl
Mae Ysgol Bodhyfryd yn chwilio am Bennaeth sy'n rhugl yn y Gymraeg, sy'n meddu ar weledigaeth i arwain ein cymuned ysgol fywiog yn Wrecsam. Gan adeiladu ar ein graddfa 'Da' gan Estyn, byddwch yn sicrhau bod safonau uchel o addysgu a dysgu ar draws yr ysgol, gan gynnwys ein dwy uned sy'n darparu adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Rydym yn chwilio am arweinydd strategol i arloesi o fewn Cwricwlwm Cymru wrth feithrin ein ethos cynhwysol a theuluol. Trwy feithrin y partneriaethau cryf presennol rhwng ein staff ymroddedig, ein disgyblion a'n rhieni, byddwch yn sicrhau bod pob plentyn ym Modhyfryd yn cyrrae dd eu llawn botensial.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Os hoffech drafod y swydd cysylltwch a'r Llywodraethwyr ar [email protected]
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.