MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 33,731 - 51,942 *
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 33,731 - 51,942 *
Ynglŷn â'r rôlMae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Tal-y-bont yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddgar i swydd athro/athrawes Cyfnod Allweddol 2.
Mae Ysgol Tal-y-bont yn ysgol hapus a llwyddiannus wedi ei lleoli ym mhentref Tal-y-bont, yng ngogledd Sir Ceredigion. Fel ymarferydd proffesiynol, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion Cwricwlwm i Gymru, a'r gallu i arwain ar feysydd penodol o'r cwricwlwm. Byddai'r gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol.
Mae'r swydd yn 0.6, ac yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio 5 bore ac 1 prynhawn yr wythnos.
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Athro/Athrawes yn Ysgol Gymunedol Tal-y-bont, lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol. Dymunai'r panel cyfweld dderbyn ceisiadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, a byddwn yn cynnal y cyfweliadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth Cynorthwyol Sioned Morris ar s.morris@talybont.ceredigion.sch.uk neu 01970832276.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy