MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Dros Dro - Ysgol y Creuddyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

YSGOL Y CREUDDYN

Cyfeiriad: Ffordd Derwen, Bae Penrhyn, Conwy, LL30 3LB

Rhif ffôn: 01492 544 344

Pennaeth: Gwenno Mair Davies

Yn eisiau erbyn mis Medi 2026

Athro/Athrawes Dros Dro

Cynllun Pontio Llywodraeth Cymru

(Contract dros dro hyd at 31/08/2027)

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Oriau: Llawn Amser

Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o'r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Y Creuddyn am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.


Mae Ysgol Y Creuddyn yn ysgol ddynodedig Gymraeg sydd wedi ei lleoli ym Mae Penrhyn, ger Llandudno. Ar hyn o bryd mae ychydig dros 700 o ddysgwyr yn yr ysgol, gan gynnwys 100 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Y mae i'r ysgol naws ofalgar a theuluol ac ethos gynhwysol. Rydym yn ymfalchïo yn ein tîm brwdfrydig a gweithgar o staff sydd yn angerddol am gynnig y

ddarpariaeth, y gefnogaeth a'r profiadau gorau i'n dysgwyr o ran eu Dawn, eu Dysg a'u Daioni. r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Y Creuddyn i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo'n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:

  • Cynllunio gwersi
  • Asesu, marcio ac adborth
  • Rheolaeth ddosbarth
  • Datblygu dycnwch
  • Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu. font-size:12pt">Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae'r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.

Proses ymgeisio :

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi'i atodi i'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 22 Chwefror 2026.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner cyn gwyliau'r Pasg. font-size:12pt">Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg - Hwb neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch âr Pennaeth, Miss Gwenno Mair Davies ar swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk / 01492 544344. font-size:12pt">Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.


This form is also available in English