MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Cyflog: Gradd gyflog athrawon ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Teacher of Foundation Phase Learning Support Class (ASD) based at Maesybryn
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Cyflog: Gradd gyflog athrawon ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002088 Dyddiad postio 06/02/2026 Dyddiad cau ceisiadau 20/02/2026 Cyflog Cyflog: Gradd gyflog athrawon ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig Oriau gwaith 32.5 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil JD - Teacher Maesybryn March 2024_CY-GB.doc JD 2024.doc
Teacher of Foundation Phase Learning Support Class (ASD) based at Maesybryn
Disgrifiad Swydd
Athro Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig) - Cyfnod Sylfaen
yn Ysgol Gynradd Maesybryn
Oriau: 32.5 awr yr wythnos
Cyflog: Gradd gyflog athrawon ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig
Dyddiad dechrau: 13 Ebrill 2026
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi athro dosbarth rhagorol a llawn cymhelliant i weithio yn y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Maesybryn gan ddatblygu darpariaeth ar gyfer y disgyblion hynny.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd profiadol ac egnïol sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth o ystod o strategaethau addysgu, dysgu, asesu a rheoli ymddygiad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ag awtistiaeth.
Ydych chi'n berson arloesol, brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymiad? Oes gyda chi dystiolaeth gadarn o'r gallu i weithio ar y cyd yn rhan o garfan? Pe gallech chi wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad ein disgyblion, hoffen ni glywed gennych chi.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 20 Chwefror 2026
Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio'r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.