MANYLION
  • Lleoliad: Pontrobert,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: ISR: L7-L13, Grŵp 1b
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swydd Pennaeth / Pennaeth Dros Dro (Ysgol Pontrobert)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: ISR: L7-L13, Grŵp 1b

Swydd Pennaeth / Pennaeth Dros Dro (Ysgol Pontrobert)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

'Ymdrech a Lwydda'
Swydd Pennaeth / Pennaeth Dros Dro
(Byddem yn ystyried secondiad)
Yn eisiau ar gyfer 1af o Fedi 2026
ISR: L7-L13, Grŵp 1b
Nifer o ddisgyblion: 73
Dymuna Corff Llywodraethol Ysgol Pontrobert benodi Pennaeth ysbrydoledig, ymrwymedig a brwdfrydig. Mae Ysgol Gynradd Pontrobert yn ysgol Gymraeg sy'n galon i bentref gwledig Pontrobert,
Sir Drefaldwyn. Addysgir dysgwyr rhwng 4 ac 11 oed drwy gyfrwng y Gymraeg yma. Mae'n ysgol sy'n addasu i dwf iach mewn niferoedd, ac rydym wedi dathlu canmlwyddiant ei bodolaeth yn ddiweddar.
Rydym yn falch o'r cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol â'r rhieni, y gymuned leol a phartneriaid ysgol. Mae'n hybu dilyniant addysg Gymraeg y dysgwyr drwy ei pherthynas bositif ag ysgolion pob oed lleol. Mae'n ysgol weithgar a byrlymus yn y gymuned, yn cynnig profiadau diddorol ac amrywiol i'r dysgwyr ac yn gosod safonau uchel ym mhob maes.
Mae Ysgol Pontrobert yn ysgol hapus, gartrefol gydag ymdeimlad cryf o deulu a pherthyn yn ganolbwynt i'w hethos. Gan roi pwyslais ar les, mae'r ysgol am feithrin dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial a, thrwy hynny, ddatblygu i fod dinasyddion hapus, hyderus, dwyieithog sy'n gwerthfawrogi diwylliant ac iaith ein gwlad. Disgwyliwn Bennaeth uchelgeisiol, deinamig sy'n rhannu gweledigaeth
ein hysgol.
Rydym am benodi arweinydd sydd:
• Yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr ehangu eu gorwelion a chwrdd eu potensial, trwy ddefnyddio dulliau cynhwysol a hygyrch.
• Yn dangos sgiliau arwain, blaenoriaethu a rheoli ysbrydoledig. Gall fod yn hyderus mewn rôl Pennaeth addysgu neu'n ymarferydd sydd â phrofiad arweinyddol priodol a'r brwdfrydedd i ddatblygu mewn rôl Pennaeth.
• Yn hyrwyddo lles dysgwyr a staff fel sail gadarn i ddysgu a chynnydd
• Yn ystyried ethos gofalgar yn flaenoriaeth mewn ysgol, ac yn medru hyrwyddo cyd-weithio effeithiol.
• Yn meddu ar wybodaeth gyfoes o ddatblygiadau cyfredol y cwricwlwm, yn lleol ac yn genedlaethol.
• Yn canolbwyntio ar welliant parhaus, sicrhau ansawdd a safonau uchel
• Yn medru tystiolaethu safon uchel iawn o Gymraeg a Saesneg llafar ac ysgrifenedig.
• Yn cyfathrebu'n effeithiol a'r holl rhanddeiliaid, gan roi pwyslais ar feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda dysgwyr, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach
• Yn arwain a hyrwyddo ethos Cymreig yr ysgol a'r ardal, gan feithrin balchder yn yr iaith a'r
diwylliant lleol.
Gallwn gynnig:
• Cymuned ysgol agos a chefnogol gyda dysgwyr sy'n cael eu gwerthfawrogi, sydd yn hapus ac yn awyddus i ddysgu mewn ysgol Gymraeg
• Staff brwdfrydig, profiadol ac ymroddedig sy'n gefnogol ac yn cyd-weithio'n agos gyda'u pennaeth

• Cefnogaeth broffesiynol gan y Corff Llywodraethol, yr awdurdod lleol, a'r gymuned, a chyfleodd am ddatblygiad parhaus
• Amgylchedd gweithio a dysgu deniadol a dymunol
Gwefan yr ysgol: https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysgol-pontrobert/adre
Am wybodaeth pellach, neu i drefnu ymweliad âr ysgol cysylltwch â Chadeirydd y Corff Llywodraethol: Carwyn Davies ar ebost: DaviesC2705@pontrobert.powys.sch.uk neu Ymgynghorydd
Gwella Ysgolion Arweiniol yr ysgol - Mrs Delyth Jones - delyth.jones1@powys.gov.uk am sgwrs
anffurfiol.
ESTYN: Ysgol Pontrobert - Estyn
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS manwl; oherwydd natur y gwaith dan sylw, mae'r swydd
rydych chi'n gwneud cais amdani wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974
(Eithriadau) 1975 (fel y'i diwygiwyd yn 2013). Mae'r swydd hon wedi ei dosbarthu fel gweithgaredd
rheoleiddiedig o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf
Diogelu Rhyddid 2012, a bydd yn destun gwiriad i'r rhestr o'r bobl hynny sydd wedi eu gwahardd rhag
gweithio gyda phlant.
Dyddiad Cau: 01/03/26 21:00
Rhestr fer: 03/03/26
Cyfweliadau ag arsylwi sesiynau dysgu: wythnos yn cychwyn 16/3/26
Am ffurflenni cais a manylion pellach, ffoniwch 01597 826300 neu ar e-bost recruitment@powys.gov.uk neu ewch ar-lein i www.powys.gov.uk