MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £25,402 y flwyddyn pro rata - £13.16 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £25,402 y flwyddyn pro rata - £13.16 yr awr
Cynorthwyydd Arlwyo (Siop Goffi)Graddfa Gyflog 1: £25,402 y flwyddyn pro rata - £13.16 yr awr
Lleoliad: Campws Pencoed
18 awr yr wythnos
Cyfnod penodol tan 31/08/2026
Sylwch, bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a weithiwyd am weddill y flwyddyn academaidd.
Pwrpas y Swydd: Cynorthwyo gyda pharatoi bwyd a diod sylfaenol (gan gynnwys coffi barista), cynorthwyo i gynnal a chadw glanhawramgylchedd diogel ac i wasanaethu cwsmeriaid i safon uchel.
Oriau gwaith: Dydd Llun - Dydd Iau, 3yp - 7:30yp.
Os oes gennych sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych, ac rydych yn mwynhau gweithio yn y maes arlwyo, hoffem glywed gennych!
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma: Pecyn Gwybodaeth Swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.