MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/Atrawes Dros Dro - Ysgol Dyffryn Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
YSGOL DYFFRYN CONWYCyfeiriad: Ffordd Nebo, Llanrwst LL26 0SA
Rhif ffôn: 01492 642800
Pennaeth: Owain Gethin Davies
Yn eisiau erbyn mis Medi 2026
Athro Dros Dro (cynllun pontio Llywodraeth Cymru)
(Contract dros dro hyd at 31/08/2027)
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Oriau: Llawn Amser
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o'r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Dyffryn Conwy am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol gyfun Gymraeg lwyddiannus sydd wedi'i lleoli yn nhref hardd Llanrwst. Mae'n gwasanaethu dalgylch eang Dyffryn Conwy, gan gynnig addysg o safon i ddisgyblion rhwng 11 ac 18 oed. Mae'r ysgol yn adnabyddus am ei naws gymunedol glos ac am hybu defnydd o'r iaith Gymraeg ymhlith ei phobl ifanc, tra hefyd yn darparu cwricwlwm eang sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer y dyfodol. Gyda phwyslais cryf ar lesiant a chyfleodd allgyrsiol, mae Dyffryn Conwy yn ymdrechu i feithrin uchelgais a hyder ym mhob unigolyn.
- Cynllunio gwersi
- Asesu, marcio ac adborth
- Rheolaeth ddosbarth
- Datblygu dycnwch
- Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae'r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Proses ymgeisio :
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi'i atodi i'r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 22 Chwefror 2026.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner cyn gwyliau'r Pasg. font-size:12pt">Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg - Hwb neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch âr Pennaeth Owain Gethin Davies ar 01492642802.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
This form is also available in English