MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grŵp 2 L9 - L15 £64,174- £74,384 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - Ysgol Morfa Rhianedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Grŵp 2 L9 - L15 £64,174- £74,384 y flwyddyn

YSGOL MORFA RHIANEDD

Ffordd Cwm, Llandudno LL30 1EG

Pennaeth Mewn Gofal: Miss Ffion Owen

Ffôn: 01492 577150

Nifer ar y gofrestr: 134 + 29 meithrin

Yn eisiau erbyn Medi 2026 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny


PENNAETH

Oriau: Llawn Amser

Cyflog: Grŵp 2 L9 - L15 £64,174- £74,384 y flwyddyn

Mae'r Llywodraethwyr am benodi pennaeth rhagorol, arloesol ac ymroddedig sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf. Mae angen arweinydd gyda dychymyg a gweledigaeth i barhau i ddatblygu'r ysgol uchel ei pharch hon. Gwahoddir ceisiadau gan benaethiaid presennol neu ymgeiswyr gyda'r cymhwyster CPCP.

Byddai'r Llywodraethwyr yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â'r canlynol:
  • gweledigaeth glir am ragoriaeth addysgol ac yn angerddol ynglŷn â gwella cyflawniadau disgyblion
  • sgiliau cadarn o ran arwain, trefnu a chyfathrebu
  • yn medru gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth âr plant, staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned
  • disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ag ymroddiad cadarn a brwdfrydig tuag at yr iaith Gymraeg a'i diwylliant, gan ystyried hanes, naws ac ethos yr ysgol.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon

Am ragor o fanylion ynglŷr swydd cysylltwch âr ysgol ar (01492) 577150

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English