MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £22.58 - £34.91 awr yn cynnwys lwfans gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd - Cerddoriaeth a Pherfformio ar gyfer y Celfyddydau Creadigol

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £22.58 - £34.91 awr yn cynnwys lwfans gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Disgwylir I'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o ddysgu ac addysgu ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.
Disgwyliadau allweddol y rôl:
1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i
gyflawni hyd eithaf eu gallu.
2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.
3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.
4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.
5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/145/26

Cyflog
£22.58 - £34.91 awr yn cynnwys lwfans gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio40-60 awr. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Mae'r pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
25 Chwef 2026
12:00 YH(Ganol dydd)