MANYLION
  • Lleoliad: Aberporth Primary School, Cardigan,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 25,185 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Aberporth x 2

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 25,185 *

Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, egniol ac ymroddedig i ymuno â'n tîm cefnogi yn Ysgol Aberporth.

Mae cynorthwyydd dosbarth yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi disgyblion cynradd o bob oedran, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu.

Bydd y rôl yn cynnwys cynorthwyo'r athro dosbarth gyda gweithgareddau dysgu, darparu cymorth unigol neu mewn grwpiau bach, a gweithredu rhaglenni ymyrraeth fel rhan o ddarpariaeth gyffredinol yr ysgol.

Disgwylir i'r cynorthwyydd hyrwyddo amgylchedd diogel, cynhwysol a chadarnhaol sy'n cefnogi datblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion.

Prif Ddyletswyddau:
  • cefnogi disgyblion cynradd o bob oedran yn y dosbarth, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu
  • gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth i gynorthwyo gyda gweithgareddau dysgu a datblygu
  • darparu cymorth unigol neu mewn grwpiau bach i wella dealltwriaeth a chynnydd
  • cynorthwyo gyda gweithredu rhaglenni ymyrraeth fel rhan o ddarpariaeth gyffredinol yr ysgol
  • monitro cynnydd disgyblion a rhoi adborth i'r athro dosbarth
  • cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol disgyblion mewn amgylchedd diogel a chynhwysol
  • paratoi adnoddau dysgu a chynorthwyo gyda threfniadau dosbarth
  • sicrhau bod polisïau diogelu ac iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn bob amser

    Sgiliau a Phrofiad Hanfodol:
    • profiad o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol
    • sgiliau cyfathrebu cryf a hagwedd gadarnhaol
    • y gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm
    • hyblygrwydd a pharodrwydd i addasu i anghenion y dosbarth

    Dymunol:
    • dealltwriaeth o anghenion amrywiol disgyblion, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu
    • profiad o ddarparu cymorth dysgu neu ymyrraeth (mantais)
    • cymhwyster Lefel 2 mewn Cymorth Dysgu neu gymhwyster cyfatebol (neu fod yn barod i weithio tuag at un)

    Rydym yn cynnig:
    • tîm cefnogol a chroesawgar
    • cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus
    • amgylchedd ysgol sy'n canolbwyntio ar les a chynhwysiant

    Cysylltwch â ni

    Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon c ysylltwch â Vicky Hart-Griffiths, Pennaeth ar 01239 810081

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
    Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
    • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
    • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
    • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
    • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
    • Derbyniadau Ysgol
    • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
    • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
    • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
    • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
    Ysgol Gynradd Aberporth Lleolir ein hysgol bum munud o'r traeth ym mhentref gal mor Aberporth ar arfordir hyfryd Ceredigion. Ceir golygfeydd o fae Ceredigion o dir yr ysgol. Derbynia'r ysgol ddisgyblion yn llawn amser i'r dosbarth Derbyn ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu...
    Darllen mwy