MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa G04 NJC pwynt 8 - 11, £17,155 - £17,998 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 Dros Dro - Ysgol Talhaiarn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa G04 NJC pwynt 8 - 11, £17,155 - £17,998 y flwyddyn
YSGOL CYNRADD TALHAIARNStryd yr Eglwys, Llanfairtalhaiarn, Abergele, Conwy, LL22 8SD
Ffôn: (01745) 720242
Pennaeth: Mrs Llinos Mevel
Yn eisiau ar gyfer mis Ebrill 2026
CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 3 DROS DRO
Cytundeb dros dro hyd at 4ydd Ebrill 2027
Oriau: 27 ½ awr yr wythnos - tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddiant.
Cyflog: Graddfa G04 NJC pwynt 8 - 11, £17,155 - £17,998 y flwyddyn
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod mewn ysgol fechan wledig yn Llanfairtalhaiarn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr Athro. Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd cyfle yn ogystal i wneud gwaith taliadwy fel Cymhorthydd Clwb Brecwast ar delerau llanw, mwy o wybodaeth ar gael gan yr ysgol.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch âr Pennaeth ar 01745 720242
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English