MANYLION
  • Lleoliad: Brecon,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3 - Ysgolion (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 3 - Ysgolion (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
L3 Cynorthwyydd Addysgu (Tîm Ymgysylltu â Disgyblion - tymor penodol 1
flwyddyn yn y lle cyntaf)
Graddfa 7: £30,024-£32,061 (Cyflog llawn amser)
Cyflog pro rata sydd ar gyfer y swydd hon, ac mae am 32.5 awr yr wythnos / 39 wythnos
y flwyddyn (ynghyd â hawl gwyliau) cyfrifir hyn ar gyfradd yr awr o £15.56 sy'n codi i
£15.81 ar ôl chwe mis, yna'n cynyddu bob blwyddyn i uchafswm o £16.61 (graddfa gyflog
bresennol ar 02.09.2025)
Mae'r Corff Llywodraethu am benodi aelod newydd i ymuno â'n tîm ymgysylltu â
disgyblion. Mae'r tîm hwn yn chwarae rhan allweddol wrth wella ymgysylltu, rheoleiddio
a sicrhau datblygiad systemau a strategaethau ymddygiad perfformiad uchel ac
effeithiol yn yr ysgol.
O dan arweiniad uwch arweinydd dynodedig, mae'r tîm hwn yn cymryd rôl weithredol
wrth sicrhau ymagwedd at ymyriadau lles, ymddygiad a rheoleiddio i ddisgyblion, gan
gynnwys rheoli ymddygiad disgyblion. Bydd y rôl yn cynnwys sicrhau bod
strategaethau a dulliau yn cael eu gweithredu'n effeithiol a bod systemau priodol yn
cael eu defnyddio i olrhain, monitro a gwerthuso cynnydd disgyblion. Mae arferion sy'n
canolbwyntio ar y disgyblion, gwaith tîm rhagorol, meddwl creadigol, cyfrinachedd a'r
gallu i weithio'n galed mewn amgylchedd heriol wrth wraidd llwyddiant y tîm hwn. Mae
aelodau'r tîm hwn yn hyblyg gyda'r gallu, y penderfyniad a'r ymrwymiad i weithio ar y
cyd â'r uwch dîm arweinyddiaeth i hyrwyddo cyfeiriad strategol yr ysgol.

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon