MANYLION
  • Lleoliad: Llangors,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Mes Bach)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr

Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Mes Bach)
Swydd-ddisgrifiad
Mes Bach
(Lleoliad cyn-ysgol - Llangors)
Cynorthwyydd Lleoliad Cyn-Ysgol yn angen ar gyfer 13 Ebrill 2026
Mae Arweinydd y Lleoliad, Unigolion Cyfrifol a Chorff Llywodraethol y lleoliad cyn-ysgol ffyniannus hwn yn ceisio penodi 'Cynorthwyydd Lleoliad Cyn-ysgol' profiadol, ysbrydoledig a brwdfrydig ar gyfer Mes Bach. Bydd y swydd yn cynnwys darparu dysgu a gofal cyn-ysgol o safon sy'n canolbwyntio ar chwarae yn unol â Chwricwlwm Cymru a chefnogaeth bwrpasol i blant unigol. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys, ym maes gofal plant, ac ymgeiswyr rhagorol i ymuno â ni mewn adeilad o'r radd flaenaf. Rydym yn chwilio am gynorthwyydd ysbrydoledig, creadigol a rhagorol sy'n gallu:
*Gweithio o dan oruchwyliaeth gyffredinol Arweinydd y Lleoliad neu'r Unigolyn Cyfrifol, y Pennaeth neu aelod uwch arall o staff neu'r llywodraethwr, cynorthwyo a chefnogi'r gwaith o gyflwyno profiadau chwarae o ansawdd da / cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen fel rhan o gontinwwm y Cyfnod Sylfaen.
*Gweithredu rhaglenni gwaith y cytunwyd arnynt gydag unigolion/grwpiau, yn y
lleoliad neu'r tu allan iddo, gan fynd i'r afael ag anghenion plant sydd angen
cymorth penodol i oresgyn rhwystrau i ddysgu a'u cefnogi.
*Darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar o fewn y lleoliad lle mae plant a
rhieni/gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cael
cymorth a chefnogaeth gadarnhaol o ystod o weithgareddau.
Yn gyfnewid, gallwn gynnig i chi:
• Tîm o staff ymroddedig a chefnogol
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Ysgol hapus sy'n gofalu am les staff a disgyblion
• Llywodraethwyr, rhieni a chymuned gefnogol
• Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Mae croeso ac anogir ymweliadau â'r ysgol - cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar
01874 658663 i drefnu ymweliad.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi ar gyfer y swydd wag hon erbyn:
22Chwefror 2026
Dyddiad llunio rhestr fer:23 Chwefror 2026 Dyddiad y cyfweliad: 26 Chwefror
2026
Am ffurflen gais a manyleb swydd, ffoniwch 01597826409, e-bostiwch
recruitment@powys.gov.uk neu gwnewch gais ar-lein ar www.powys.gov.uk

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon