MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 4 - £25,185 - £25,989 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (Llythrennedd) - Ysgol Uwchradd VC Hwlffordd

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 4 - £25,185 - £25,989 pro rata

Gradd 4 - £25,185 am 30 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £17,937.25 pro rata.

Mae Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd yn falch o wahodd ceisiadau am Gynorthwyydd Cymorth Dysgu Llythrennedd Lefel 2 i ymuno â'n tîm ymroddedig. Swydd cyfnod penodol am flwyddyn yw hon, sy'n cynnig cyfle gwych i chwarae rhan hanfodol wrth lunio dysgu pobl ifanc.

Fel rhan o gymuned ein hysgol, byddwch yn gweithio mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo rhagoriaeth, cynhwysiant a disgwyliadau uchel i bob dysgwr. O dan arweiniad staff addysgu ac uwch-staff, byddwch yn cyflwyno rhaglenni cymorth wedi'u targedu sy'n helpu disgyblion i gael mynediad at ddysgu, ffynnu yn yr ystafell ddosbarth a chyrraedd eu potensial llawn. Un ffocws allweddol y swydd hon fydd cychwyn a gweithredu cynlluniau cymorth llythrennedd, gan gael effaith wirioneddol a pharhaol ar y dysgwyr sydd ei angen fwyaf.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd ag addysg o safon dda, dealltwriaeth gref o anghenion a hawliau plant a phobl ifanc, a phrofiad o weithio gyda phlant. Yn bwysicaf oll, byddwch yn dod â brwdfrydedd, amynedd ac ymrwymiad gwirioneddol i gefnogi ein disgyblion.

Os yw'r cymhelliant, y penderfyniad a'r sgiliau gennych i ymgymryd â rôl werth chweil gyda heriau ystyrlon - ac yr hoffech fod yn rhan o dîm cefnogol - byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Rydym yn hynod falch o'n disgyblion a chyflawniadau cymuned ein hysgol. Er mwyn eich helpu i wneud cais cryf, rydym yn eich annog i gael golwg ar ein gwefan a'n dilyn ar Facebook ac Instagram i ddysgu mwy am Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd.

Sylwer: Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.