MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,595- £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Gosod Brics neu Plastro

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £33,595- £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd

Mae Adran Adeiladwaith Coleg Meirion Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau adeiladwaith. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern. Mae'r ddarpariaeth Adeiladwaith wedi'i lleoli yn CaMDA (Dolgellau).

Rydym yn chwilio am aelod o staff llawn amser parhaol i ymuno ag Adran Adeiladwaith y Coleg; a rydym yn barod i gyflogi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig sydd â phrofiad yn y maes Adeiladwaith, yn benodol Gosod Brics neu Blastro. Byddwn yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr o'r ddau faes crefft, a bydd yr amserlen addysgu yn cael ei haddasu i gyd-fynd â sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r adran yn cynnig darpariaeth eang sy'n cynnwys cyrsiau amser llawn, rhan-amser, prentisiaethau a'r cwricwlwm 14-16. Ar hyn o bryd mae gennym dîm cryf o ddarlithwyr Adeiladwaith ym meysydd plymio, gosod brics, gwaith coed ac adeiladwaith cyffredinol, ynghyd â staff goruchwylio sgiliau ymarferol mewn meysydd gan gynnwys plymio, gosod brics, gwaith coed a phlastro, ac aelodau staff sy'n gweithio'n benodol gyda'r ddarpariaeth brentisiaethau. Rydym yn edrych am aelod o staff fydd yn ategu at hyn ac yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus yr adran.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus i ddysgwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i ddysgwyr, ac i helpu i symud yr adran yn ei blaen.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/143/26

Cyflog
£33,595- £51,931 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau

Hawl gwyliau
46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

835 awr o amser addysgu blynyddol - 24 i 26 awr yr wythnos.

Hyd at 5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
27 Chwef 2026
12:00 YH(Ganol dydd)