MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £15.97 yr awr, gan gynnwys tâl gwyliau
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu, Sgiliau Byw yn Annibynnol, Tymor yn Unig, Dolgellau

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £15.97 yr awr, gan gynnwys tâl gwyliau

O fewn y Meysydd Rhaglen Byw'n Annibynnol, bydd angen i'r person llwyddiannus fod yn frwdfrydig ac yn hyblyg i gefnogi dysgwyr o fewn ystod o sgiliau bywyd a gwaith, megis e.e. coginio, sgiliau byw bob dydd, garddio, llythrennedd, rhifedd, TG, sgiliau dinasyddiaeth, datblygiad personol a chymdeithasol ac yn gweithio yn Cyn Mynediad - Lefel 1.

Efallai y bydd angen cefnogi dysgwyr ag anawsterau ymarferol a chorfforol yn ystod amseroedd egwyl os oes angen.
  • Gweithio ochr yn ochr â darlithwyr a hyfforddwyr yn yr ystafell ddosbarth.
  • Helpu myfyrwyr i gael yr elw mwyaf posib o'u dysgu.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/147/26

Cyflog
£15.97 yr awr, gan gynnwys tâl gwyliau

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 28 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
Hyd at 30 awr yr wythnos (i'w gytuno) -

Dyddiau gwaith rhwng Dydd Llun a Dydd Iau. Mae'r patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd)

31 wythnos y flwyddyn - oriau yn ystod tymor y coleg

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
02 Maw 2026
12:00 YH(Ganol dydd)