MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 62,612 - 72,579 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 62,612 - 72,579 *
Ynglŷn â'r rôl"Gwneud eich gorau sydd orau bob tro"
Croeso i Ysgol Llanilar - Gwyliwch y fideo
Ydych chi'n arweinydd ysbrydoledig sy'n chwilio am ysgol hapus, cartrefol a llwyddiannus yng nghalon Ceredigion?
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar yn chwilio am Bennaeth newydd i arwain ein hysgol Gymraeg ffyniannus. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n barod i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle a pharhau i feithrin awyrgylch lle mae disgyblion yn ffynnu mewn Cymuned Cyfeillgar, Teuluol a Hapus.
Amdanom ni
Yn ôl adroddiad Estyn diweddaraf (Mehefin 2025), mae Ysgol Llanilar yn ysgol lle mae "arweinyddiaeth ysbrydoledig... ynghyd â staff cydwybodol, yn meithrin lles, gofal a chymorth disgyblion yn hynod effeithiol" .
Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar, rydym yn ymfalchïo mewn disgyblion sy'n arddangos ymddygiad da ac annibyniaeth yn eu dysgu. Mae llais y plentyn yn ganolog i'n hethos, gyda grwpiau 'Lleisiau Ilar' yn chwarae rhan greiddiol wrth ddylanwadu ar bopeth o welliannau cymunedol i weithgareddau lles, sy'n cael eu cyfoethogi ymhellach gan ddefnydd gwerthfawr o'n hardaloedd awyr agored. Cefnogir yr ysgol gan Gorff Llywodraethol cydwybodol sy'n adnabod ein cryfderau yn drylwyr ac yn barod i weithio mewn partneriaeth â'r Pennaeth newydd i gynnal llwyddiant parhaus.
Y Person Delfrydol
Rydym yn chwilio am arweinydd sydd â'r weledigaeth i gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu, gan sicrhau bod lles a gofal disgyblion yn parhau i gael eu meithrin yn hynod effeithiol. Byddwch yn sicrhau bod profiadau dysgu yn parhau i ennyn diddordeb, tra'n ymateb i argymhelliad diweddar Estyn. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cynnal y berthynas gadarnhaol gyda rhieni a'r gymuned, ac yn sicrhau parhad y gefnogaeth fwriadol sy'n galluogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i wneud cynnydd cryf.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael
- gwybodaeth a phrofiad perthnasol o gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol
- dealltwriaeth o fethodolegau addysgeg effeithiol
- gwybodaeth gadarn o strategaethau asesu disgyblion effeithiol
- dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol a datblygiadau i ddod mewn addysg Gymraeg
- y gallu i ddatblygu a rheoli tîm sy'n perfformio'n dda gan sicrhau datblygiad proffesiynol staff trwy brosesau rheoli perfformiad effeithiol
- gweledigaeth glir o ddatblygu strategaeth gan gynnwys gweithredu a gwerthuso
- gwybodaeth ymarferol o reoli cyllidebau'n effeithiol
- profiad o gynllunio'r cwricwlwm a dyrannu adnoddau
- y gallu i ddatblygu perthynas gref a chefnogol gyda staff, disgyblion, rhieni, Llywodraethwyr, y Cyngor Sir, y gymuned leol, a chyrff eraill.
Mae'r hysbyseb hon ar gyfer Pennaeth lle mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Yn ogystal â'r gofynion hyn, mae'r ysgol a'r Llywodraethwyr yn rhoi pwys arbennig fod gan yr ymgeisydd
- Ddisgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac eraill o fewn lleoliad yr ysgol a chymuned ehangach Llanilar
- Gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol yr ysgol sy'n ysbrydoli staff, rhieni a disgyblion fel ei gilydd
- Arweiniad rhagorol sy'n tynnu ar ac yn atgyfnerthu arbenigedd staff eraill
- Y gallu i ddarparu amgylchedd gofalgar, parchus a chynhwysol i bawb
- Y gallu i annog disgyblion i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi'r Gymraeg adref
- Y gallu i sicrhau bod yr ysgol yn helpu pob disgybl i ddatblygu dysgu annibynnol ac i fod yn barod ar gyfer y byd y tu allan i'r ysgol
- Y gallu i barhau i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol a'r gymuned leol
- Yr awydd i fod yn agored i syniadau ac arbenigedd newydd o fewn a thu allan i'r ysgol
- Profiad a'r gallu i reoli newid yn effeithiol
Manyleb Person
Sut i Ymgeisio
Ar hyn o bryd mae gan y Pennaeth ymrwymiad addysgu dau ddiwrnod yr wythnos.
Mae croeso i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ysgol cyn gwneud cais, gellir gwneud hynny drwy gysylltu â Lowri Steffan ar lowristeffan@hotmail.comi drefnu ymweliad.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch âg Alwyn Ward Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion, ar 07398 250989 neu alwyn.ward@ceredigion.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd 1/3/26 a chynhelir cyfweliadau ar ddydd 10/3/26.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy