MANYLION
  • Lleoliad: Llyfrgell Llangefni Library,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: 19014.00 - 20960.00 GBP per Year
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Ymgysylltu Dysgu Gydol Oes a Llyfrgelloedd

Cyngor Sir Ynys Mon

Cyflog: 19014.00 - 20960.00 GBP per Year

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd
Cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu a chyflenwi cyfleoedd Dysgu Oedolion yn y Gymuned a ddarperir mewn ll eoliadau ar draws Ynys Môn. Ymgysylltu gyda chymunedau i hyrwyddo gwaith y Gwasanaeth Llyfrgell.

• Cynllunio, trefnu a chyflenwi hyfforddiant Llythrennedd Digidol a Gwybodaeth i aelodau o'r cyhoedd a staff, ynghyd â hyrwyddo'r defnydd o blatfformau Digidol y Gwasanaeth.

• Cynnal cysylltiadau da gyda phartneriaid ar draws yr ardal ddaearyddol a chynrychioli'r Awdurdod mewn cyfarfodydd perthnasol ar lefel weithredol.

• Bod yn gyfrifol am waith trefnu dydd i ddydd cyrsiau a gweithgareddau mewn amryw leoliadau, yn unol ag anghenion y Gwasanaeth ac mewn ymateb i anghenion dysgwyr.

• Cadw cyswllt gyda grwpiau cymunedol a chyrff trydydd sector er mwyn deall am angen/awydd posibl am gyrsiau a chyfleoedd dysgu anffurfiol mewn cymunedau ar draws Môn

• Sicrhau lle'r Gwasanaeth Llyfrgell wrth galon y gymuned, gan gynyddu ymwybyddiaeth o lyfrgelloedd fel mannau croesawgar sy'n cefnogi dysgu, mynediad at wybodaeth, a cysylltiad cymunedol a llesiant.

Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt
Enw: Bethan Hughes-Jones

Rhif ffôn: 01248 752091

Cyfeiriad e-bost: bethanhughesjones@ynysmon.llyw.cymru