MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Swyddfeydd y Cyngor,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: 76263.00 - 78821.00 GBP per Year
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Arweinydd Strategol - Anghenion Dysgu Ychwanegol, Chynhwysiad ac Ymgysylltu
Cyngor Sir Ynys Mon
Cyflog: 76263.00 - 78821.00 GBP per Year
Gweithio i Gyngor Sir Ynys MônMae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Rôl uwch arweinyddiaeth, sy'n cefnogi'r Cyfarwyddwr yn uniongyrchol wrth ddarparu'r gefnogaeth fwyaf effeithiol ac effeithlon i blant, pobl ifanc a phreswylwyr Ynys Môn.
Gweithredu fel Arweinydd sydd a chyfrifoldeb uniongyrchol dros y maes cymhleth A DY a Chynhwysiad gan barhau i'w drefnu a'i ddatblygu a chynorthwyo y gwasanaethau i sefydlu egwyddorion gweithredu yn unol a deddfau perthnasol a sicrhau cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth ADY . Arwain ar faes Arbennigol Proffesiynol o fewn y g wasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad .
G w eithio ar y cyd a chy dweithio'n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol gydag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid, h.y., Llywodraeth Cymru, Estyn, Bwrdd Iechyd, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, aelodau etholedig, arweinwyr ysgolion yn ogystal â'r Uwch Dîm Arweinyddol a'r Tîm Rheoli Corfforaethol.
Aelod allweddol o'r T î m Arweinyddol, yn adrodd yn uniongyrchol i'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ac yn dirprwyo ar gyfer y r ô l honno yn ô l yr angen.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Cyfweliad: 17 Mawrth 2026
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Aaron Evans
Rhif ffôn: 07748622194
Cyfeiriad e-bost: aaronevans@ynysmon.llyw.cymru