MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £75,002-£78,821/£82,653
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £75,002-£78,821/£82,653
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002102 Dyddiad postio 12/02/2026 Dyddiad cau ceisiadau 01/03/2026 Cyflog £75,002-£78,821/£82,653 Oriau gwaith 37 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Deputy Head of School Improvement - Secondary & All Through Schools.pdf Deputy Primary Schools.pdf Dirprwy Bennaeth Gwella Ysgolion Uwchradd ac Pob Oed.pdf Dirprwy Cynradd.pdf
Dirprwy Bennaeth Gwella Ysgolion
Disgrifiad Swydd
Dirprwy Bennaeth Gwella Ysgolion Cynradd
Dirprwy Bennaeth Gwella Ysgolion Uwchradd ac Ysgolion Pob Oed
Graddfa Soulbury Pwynt 26 - 29, ynghyd â 3 phwynt Asesiad Proffesiynol Strwythuredig
£75,002 - £78,821/£82,653
Mae'r rolau hanfodol yma'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n darparu gwasanaethau cymorth o safon i'w 111 o ysgolion, gan gynnwys 52 o ddarpariaethau dosbarth cynnal dysgu, 4 ysgol ADY (gydag un arall yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd) a 2 Uned Atgyfeirio Disgyblion. Gan gefnogi'r Pennaeth Gwella Ysgolion, byddwch chi'n allweddol wrth gyflwyno dulliau strategol effeithiol i ddiwallu anghenion amrywiol ein disgyblion, ein hysgolion a'n cymunedau.
Mae ein model gwella ysgolion newydd yn seiliedig ar fodel gweithio ar y cyd, a bydd deiliaid y swyddi'n cymryd rhan weithredol yn annog gweithio rhwng ysgolion, cyfrifoldeb a rennir, a symud o gystadleuaeth i gydweithio, lle mae arweinwyr yn chwarae rhan allweddol wrth rannu arferion gorau a chefnogi ei gilydd i godi safonau ar draws y system. Bydd y Dirprwy Bennaeth Gwella Ysgolion yn canolbwyntio ar sicrhau bod y gwasanaeth gwella ysgolion mewn sefyllfa dda i ymateb yn effeithiol i heriau presennol ynghyd â heriau'r dyfodol wrth ddarparu gwasanaethau cymorth llwyddiannus i'n hysgolion.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus hanes o ddarparu gwasanaethau o safon, a bydd gweithio'n effeithiol gydag ysgolion a phartneriaid yn allweddol. Os ydych chi'n rhywun sydd â meddwl strategol creadigol sy'n canolbwyntio ar atebion a dulliau datrys, wedi ymrwymo i welliant parhaus a meithrin perthnasoedd cryf, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, anfonwch e-bost at Tim Britton, Arweinydd Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: tim.britton@rctcbc.gov.uk.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy'n cwrdd âr meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.