MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £82,653-£86,577/£90,606
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £82,653-£86,577/£90,606
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002101 Dyddiad postio 12/02/2026 Dyddiad cau ceisiadau 01/03/2026 Cyflog £82,653-£86,577/£90,606 Oriau gwaith 37 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Head of School Improvement.pdf Pennaeth Gwella Ysgolion.pdf
Pennaeth Gwella Ysgolion
Disgrifiad Swydd
Pennaeth Gwella Ysgolion
Graddfa Soulbury Pwynt (32-35 ynghyd â 3 phwynt aps)
£82,653-£86,577/£90,606
Mae'r rôl hanfodol yma'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant sy'n darparu gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel i'w 111 o ysgolion, gan gynnwys 52 o ddarpariaethau dosbarth cynnal/cymorth dysgu, 4 ysgol ADY (un arall yn cael ei datblygu) a 2 uned atgyfeirio disgyblion. A chithau'n aelod o garfan o uwch reolwyr cefnogol ac uchelgeisiol y Gyfarwyddiaeth Addysg, byddwch chi'n allweddol wrth gyflwyno dulliau strategol effeithiol i ddiwallu anghenion amrywiol ein disgyblion a myfyrwyr, ein hysgolion a'n cymunedau.
Mae partneriaethau cadarn wedi'u ffurfio rhwng yr awdurdod lleol a'n hysgolion, sydd wedi cryfhau ein hymgyrch ar y cyd i sicrhau bod gyda ni arweinyddiaeth a llywodraethu effeithiol yn ein hysgolion a bod pob disgybl yn cael mynediad at y ddarpariaeth, a'r profiadau addysgu a dysgu o'r ansawdd uchaf. Ein prif bwrpas yw sicrhau bod pob disgybl, waeth beth fo'u hamgylchiadau a'u hanghenion personol, yn gwneud cynnydd da ac yn cael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau i ddysgu.
Roedd Arolygiad Estyn o Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn 2023 yn gadarnhaol iawn ac yn nodi bod arolygiadau ysgolion a deilliannau disgyblion yn gwella. Mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau gwelliant parhaus ar draws ein gwasanaethau ac ysgolion. Felly, rydyn ni'n chwilio am arweinydd hynod effeithiol i sicrhau bod ein disgwyliadau ar gyfer ein disgyblion a'n hysgolion yn parhau i fod yn uchelgeisiol, ac a fydd yn gallu darparu'r cydbwysedd cywir o gymorth a her fel bod gwelliannau pellach i ysgolion a gwasanaethau yn cael eu gwireddu.
Mae ein model gwella ysgolion newydd yn seiliedig ar fodel cydweithredol a bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan weithredol yn annog gweithio rhwng ysgolion, cyfrifoldeb a rennir, a symud o gystadleuaeth i gydweithio, lle mae arweinwyr yn chwarae rhan allweddol wrth rannu arferion gorau a chefnogi ei gilydd i godi safonau ar draws y system. Bydd y Pennaeth Gwella Ysgolion yn canolbwyntio ar sicrhau bod y Gyfarwyddiaeth mewn sefyllfa dda i ymateb yn effeithiol i heriau presennol a heriau yn y dyfodol, ail-lunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion sy'n esblygu lle bo angen a darparu gwasanaethau cymorth o safon uchel i'n hysgolion.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gweithio'n effeithiol gydag ysgolion a phartneriaid yn allweddol. Os ydych chi'n rhywun sydd â meddwl strategol creadigol sy'n canolbwyntio ar atebion a dulliau datrys, wedi ymrwymo i welliant parhaus a meithrin perthnasoedd cryf, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Os hoffech chi drafod y rôl yn anffurfiol, cysylltwch â Tim Britton, Arweinydd Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant trwy e-bostio tim.britton@rctcbc.gov.uk
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.