MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: L18 £79,288 i L24 £91,836
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - YGG Aberdar

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: L18 £79,288 i L24 £91,836

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002108 Dyddiad postio 13/02/2026 Dyddiad cau ceisiadau 05/03/2026 Cyflog L18 £79,288 i L24 £91,836 Oriau gwaith 32.5 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil Pecyn Penodi Pennaeth YGG Aberdâr FINAL HT Recruitment Pack Aberdar.docx

Pennaeth - YGG Aberdar

Disgrifiad Swydd
Cyflog: L18 £79,288 i L24 £91,836

Dechrau: 01/09/2026

Nifer ar y Gofrestr: 408

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn awyddus i benodi Pennaeth ysbrydoledig a blaengar er mwyn helpu'r Corff Llywodraethu i symud yr Ysgol yn ei blaen.

Rydyn ni'n falch o'r amgylchedd meithringar, croesawgar a chyfeillgar rydyn ni wedi'i greu, ac rydyn ni'n awyddus i sicrhau ymdeimlad o gymuned wrth i ni dyfu. Mae staff yr Ysgol yn dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad drwy gydweithio'n dda, sy'n arwain at ganlyniadau da a phrofiad cadarnhaol a dymunol ar gyfer ein disgyblion.

Rydyn ni'n chwilio am Bennaeth sy'n:
  • Ymroi i ragoriaeth mewn addysg;
  • meddyliwr strategol â gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant parhaus sy'n cydweithio'n agos ac yn effeithiol â chorff llywodraethu'r ysgol;
  • Gweithiwr proffesiynol gyda phrofiad o fedrau arwain, rheoli a rhyngbersonol;
  • Arweinydd sy'n ysbrydoli, yn cymell ac yn grymuso pobl eraill;
  • Hybu'r Gymraeg a'i diwylliant yn yr ysgol a'r gymuned ehangach;
  • Dal disgwyliadau uchel o bawb, drwy ymrwymo i ddarparu addysg ragorol a chodi dyheadau pob plentyn;
  • Cyfathrebwr ardderchog a fydd yn ysbrydoli plant, rhieni a staff fel ei gilydd;
  • Barod i ymrwymo i feithrin cydberthnasau sy'n bodoli eisoes gyda'n teuluoedd a'r gymuned ehangach ymhellach;
  • Barod i ymrwymo'n gryf i weithio mewn partneriaeth â staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.
  • Hyrwyddo ethos ysgol gyfan cynhwysol a meithringar ac yn grymuso staff i ddiwallu anghenion pob disgybl.

Mae modd i ni gynnig:-
  • Tîm addysgu a chymorth talentog, angerddol a chydlynol sy'n arloesol ac yn hawdd mynd atynt, gan ddod ag ymrwymiad cadarnhaol a phroffesiynol i newid a gwelliant parhaus.
  • Disgyblion gofalgar a brwdfrydig sy'n falch o wreiddiau eu Cymoedd ac yn chwilfrydig am y byd y tu hwnt.
  • Corff llywodraethu ymroddgar a chefnogol, sy'n ymroi i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r gorau ar gyfer ein holl blant.

Dyma gyfle cyffrous i'r person iawn fynd â'n hysgol i'r cam nesaf yn ei datblygiad.

Mae modd cael gafael ar ffurflenni cais a manylion pellach yn Chwilio am Swyddi (webitrent.com)

** CYFARWYDDIADAU ETEACH YN UNIG **

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth i weithwyr, ac nid drwy'r ddolen. Os oes gennych chi unrhyw broblemau o ran cyrchu'ch cyfrif Hunanwasanaeth i Weithwyr, cysylltwch â charfan gweinyddu iTrent ar 01443 680760 neu Gweinydduitrent@rctcbc.gov.uk

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch y broses ymgeisio, ffoniwch Jo Thomas ar y rhif ffôn canlynol: (01443) 444526 neu e-bostiwch Joanne.Thomas @rctcbc.gov.uk

Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw 5 Mawrth 2026 am 12:00pm (canol dydd).

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.