MANYLION
  • Lleoliad: Llanidloes,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon Ystafell Ddosbarth
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/ Athrawes Mathemateg (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon Ystafell Ddosbarth

Athro/ Athrawes Mathemateg (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Athro/ Athrawes Mathemateg
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion mwyaf hapus a llwyddiannus yng Nghymru. Rydym wedi'n bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos gofalgar a thîm staff ymroddedig dros ben. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i athro Mathemateg ysbrydoledig
ymuno ag ysgol ragorol, gyfeillgar sydd wedi'i lleoli yng nghanolbarth Cymru hardd, wledig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
• yn ofalgar am les a llwyddiant academaidd pob disgybl;
• yn medru addysgu Mathemateg yn effeithlon hyd at a chan gynnwys Lefel A; yn weithgar, yn ysbrydoli cariad tuag at ddysgu ac yn sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd y safon academaidd uchaf posibl; yn ddynamig yn y dosbarth ac yn cynnal safonau uchel iawn o addysgu a dysgu; â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn aelod da o dîm ac yn medru gweithio'n annibynnol; sgiliau trefniadol gwych ac etheg gwaith cryf; yn cyfrannu'n llawn tuag at ddarparu cyfleoedd allgyrsiol; ag agwedd bositif tuag at ddatrys problemau.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gynnig ail bwnc yn ddymunol. Mae croeso i ANG wneud cais.
Ydyddiad cau ar gyfed ceisiadau yw dydd Sul 1af Mawrth. Bydd y rhestr fer un digwydd wythnos sy'n dechrau 2il Mawrth a'r cyfweliadau ddydd Mercher 4ydd Mawrth 2026.
Os oes angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mr Daniel Owen, y Pennaeth.