MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend Campus,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a delir fesul awrSylwer, contract a delir fesul awr yw hon, sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £26,386 - £31,139 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)Cymwysedig: £33,596 - £51,932 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont i gyfrannu at addysg a datblygiad y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Yn y rôl hyblyg hon, byddwch yn cynllunio, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cynnwys cwricwlwm arloesol, gan sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni eu potensial ac yn bodloni holl ofynion y cwrs. Byddwch yn mentora er mwyn ysbrydoli ac addysgu dysgwyr, trwy wersi diddorol a chynhwysol, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gyrfa lwyddiannus yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd eich arbenigedd yn allweddol wrth helpu i ddatblygu ein dysgwyr i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gefnogi'r cymunedau y byddant yn eu gwasanaethu.
Dylech fod yn ymarferydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyfredol neu ddiweddar gydag ymwybyddiaeth gref o ymarfer cyfoes a phersbectifau damcaniaethol beirniadol. Bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â gradd berthnasol neu gymhwyster lefel uwch. Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc a/neu fod â thystysgrif TAR (neu barodrwydd i weithio tuag at un) yn hanfodol, ynghyd â dealltwriaeth dda o faterion perthnasol yn y sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, byddwch yn angerddol am ysgogi pob dysgwr i fod yn barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler pecyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.